>>> Che Guevara ( Cymraeg )

Ernesto Rafael Guevara de la Serna (14 Mai 1928 — 9 Hydref 1967) chwyldroadwr o'r Ariannin a chwareuodd ran allweddol yn chwyldro Cuba.


Ei fywyd cynnar

Meddyg oedd Che o ran ei broffesiwn. Yn ddyn ifanc rhoddodd ei waith ei fyny a theithiodd yr holl ffordd trwy dde a chanolbarth America ar fotorbeic. Roedd y daith honno i newid ei fywyd. Bu'n llygad-dyst i dlodi ac anghyfiawnder ar raddfa eang a phenderfynodd fod rhaid newid hynny. Ym Mecsico syrthiodd i mewn gyda chriw o Giwbanwyr alltud a ddyheai weld chwyldro yn Ciwba. Un ohonynt oedd Fidel Castro.

Y chwyldroadwr

Roedd Che yn aelod o Fudiad 26ain o Orffennaf dan arweiniad Fidel Castro a gipiodd awdurdod yn Ciwba yn 1959 ar ôl disodlu llywodraeth Batista. Gwasanaethodd mewn nifer o swyddi yn y llywodraeth newydd, ond canolbwyntiodd ar ddiywgio byd amaeth. Gadawodd Ciwba yn 1966 i geisio tanio chwyldro mewn gwledydd eraill gan gynnwys y Congo a Bolifia. Fe'i dienyddiwyd gan fyddin Bolivia yn Hydref 1967.

Ei ddylanwad

Cafodd esiampl Che ddylanwad aruthrol ar genhedlaeth radicalaidd y 1960au. Tyfodd ei lun i fod yn un o eiconau mwyaf amlwg y chwedegau a'r saithdegau cynnar. Mae Dafydd Iwan wedi canu cân i Che Guevara.

Cyswllt allanol

Hiç yorum yok: